Pod Profi Llwyddo'n Lleol

Von: Menter Gorllewin Sir Gâr
  • Inhaltsangabe

  • Mae cynllun Profi wedi creu cyfres o bodlediadau yn sgwrsio â nifer o unigolion o sefydliadau a busnesau gwahanol ar draws ardal ARFOR. Nod y gyfres yw hyrwyddo’r cyfleoedd byd gwaith cyffrous sydd ar gael i bobl ifanc. Drwy wrando ar gyfres Pod Profi Llwyddo’n Lleol rydych yn gallu darganfod mwy am swyddi diddorol, y manteision o fyw a gweithio yng Ngwynedd, Môn, Ceredigion a Sir Gâr a chlywed mwy am y sgiliau sydd angen ar bobl ifanc i dilyn gyrfa llwyddiannus yn eu hardaloedd lleol.
    Copyright Menter Gorllewin Sir Gâr
    Mehr anzeigen Weniger anzeigen
  • Gwynedd; Diwydiannau Creadigol a Digidol; Sioned Young, Mwydro
    Nov 22 2024
    Mae Mwydro yn gwmni Darlunio Digidol a sylfaenir gan Sioned Young o Gaernarfon yn 2019. Mae'r cwmni yn arbenigo mewn dylunio GIFs i gyfryngau cymdeithasol, ac mae casgliad GIFs Cymraeg Mwydro wedi eu gweld dros 250 miliwn o weithiau. Mae gwaith Mwydro hefyd yn cynnwys Gweithdai i Fusnesau, Comisiynau Dylunio, a dysgu plant a phobl hyd a lled Cymru i ddylunio GIFs iaith Gymraeg eu hunain.
    Mehr anzeigen Weniger anzeigen
    31 Min.
  • Gwynedd; Aled Jones, Cymen
    Nov 22 2024
    Mae cwmni cyfieithu Cymen wedi bod yn darparu gwasanaethau o’r safon uchaf ers dros 30 mlynedd ac rydyn ni’n un o gwmnïau cyfieithu mwyaf blaengar Cymru. Rydyn ni wedi ennill ein henw da oherwydd ansawdd a phrydlondeb ein gwaith. Mae gennym ni dîm ymroddedig o gyfieithwyr sydd ar dân eisiau gweld y Gymraeg yn cael ei defnyddio mewn bywyd bob dydd yng Nghymru.
    Mehr anzeigen Weniger anzeigen
    46 Min.
  • Sir Fôn; Tim Lloyd, Camu i'r Copa
    Nov 20 2024
    Cychwynnodd y cwmni fel hobi dau ffrind gyda blynyddoedd o brofiad mewn trefniadaeth chwaraeon yn 2011 ac yn cyflwyno a threfnu cannoedd o ddigwyddiadau chwaraeon ac awyr agored newydd sbon er mwynhad cannoedd o filoedd o gyfranogwyr gan ddefnyddio pobl, adnoddau a deunyddiau lleol lle bynnag bo hynny’n bosib.
    Mehr anzeigen Weniger anzeigen
    16 Min.

Das sagen andere Hörer zu Pod Profi Llwyddo'n Lleol

Nur Nutzer, die den Titel gehört haben, können Rezensionen abgeben.

Rezensionen - mit Klick auf einen der beiden Reiter können Sie die Quelle der Rezensionen bestimmen.